• Calendar
  • Committees
  • Decisions
  • ePetitions
  • Library
  • Meetings
  • Outside bodies
  • Town and Community Councils
  • Search documents
  • Subscribe to updates
  • Your councillors
  • What's new
  • Agenda and minutes

    County Councillor Elwyn Vaughan Subject: Powys visitor experience improvement project, Questions at Any Time to Cabinet Portfolio Holders - Friday, 17th June, 2022

    • Attendance details
    • Agenda frontsheet PDF 100 KB
    • Printed minutes PDF 185 KB
    Items
    No. Item

    1.

    Question from: County Councillor Elwyn Vaughan Subject: Powys visitor experience improvement project

     

    Question From:

    County Councillor Elwyn Vaughan

    Subject:

    Powys visitor experience improvement project

    Question To:

    County Councillor David Selby

    Portfolio Holder for a More Prosperous Powys

     

    Question:

     

    Deallaf no Llywodraeth Cymru trwy Cyngor Powys wedi dyfarnu pres I Lanwddyn.

     

    Yn sgil "Lake Vyrnwy" ga'i ofyn i bwy yn union fydd yr arian yn mynd, h y i'r Cyngor Cymuned, i'r RSPB, neu Dwr Hafren-Trent [Hafren-Dyfrdwy] neu endyd arall?

     

    I understand that the Welsh Government through Powys Council has awarded money to Llanwddyn.

     

    In the wake of "Lake Vyrnwy" can I ask to whom exactly the money will be going to, i.e. to the Community Council, to the RSPB, or Severn-Trent Water [Severn-Dee] or other entity?

     

     

    Minutes:

    Response by the Cabinet Member:

     

    Mae Cyngor Sir Powys wedi llwyddo i dderbyn cyllid trwy Gynllun Pethau Pwysig Croeso Cymru (Llywodraeth Cymru), cronfa sy’n cefnogi datblygiad seilwaith cyfalaf graddfa fach mewn safleoedd ymwelwyr allweddol ledled Cymru. Mae Cyngor Sir Powys wedi gweithio mewn partneriaeth gyda thair ardal o fewn y sir i ddatblygu’r cais, a gymeradwywyd yn Ebrill 2022. Yr ardaloedd dan sylw oedd Llyn Efyrnwy, Llandrindod ac Aberhonddu; dewiswyd yr ardaloedd/trefi hyn oherwydd iddyn nhw gyflawni gwaith dichonoldeb yn ddiweddar ar brofiad ymwelwyr â’r ardaloedd hynny, gan nodi meysydd angen penodol oedd yn gweddu i feini prawf y Cynllun Pethau Pwysig. 

     

    Cyfanswm cost ‘Prosiect Profiad Ymwelwyr â Phowys’ yw £268,000, a dyfarnwyd grant gwerth £210,400 i Gyngor Sir Powys trwy Gynllun Pethau Pwysig, er mwyn cwblhau’r gwaith erbyn Mawrth 2023. Mae’r gweddill y cyllid cyfatebol yn cael ei gyfrannu gan bartneriaid yr ardal/trefi, ac yn achos Llyn Efyrnwy, mae Hafren Dyfrdwy, RSPB a Chymdeithas Marchnata Llyn Efyrnwy wedi ymrwymo i gyfrannu cyllid cyfatebol gwerth £19,000 i’r prosiect.

     

    Mewnperthynas â gwireddu’r prosiect, Cyngor Sir Powys fydd yn arwain y prosiect, a thelir yr holl gyllid grant gan Lywodraeth Cymru i Gyngor Sir Powys, fydd yn gweithio gyda’r grwpiau dynodedig yn y trefi i gaffael y gwaith seilwaith, penodi a thalu’r contractwyr llwyddiannus. Cyngor Sir Powys sy’n gyfrifol am gyllidebau’r prosiect, rheolaeth ariannol a hawlio taliadau, ac oherwydd hyn, Cyngor Sir Powys fydd yn gyfrifol am ddal a dosbarthu holl gyllid y prosiect, i’w wario ar yr elfennau penodol a bennwyd yng nghais y prosiect.

     

    O safbwynt elfennau prosiect Llyn Efyrnwy yn benodol, mae’r rhain fel a ganlyn -

     

    CynllunProfiad Ymwelwyr â Llyn Efyrnwy (£95,000)

    Gwelliannau i’r maes parcio ger yr Hen Bentref a Rhiwagor, gosod meinciau picnic a rheseli beiciau, gwella mynediad at y cuddfan adar ar lannau’r llyn a gwelliannau i fyrddau dehongli a dau o lwybrau cerdded er mwyn gwella mynediad, uwchraddio man picnic Llechwedd-du er mwyn gosod byrddau picnic sy’n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, adnewyddu adrannau o’r rheiliau metel o gwmpas y llyn, sydd yn nodwedd dreftadaeth bwysig.

     

    Byddgweddill cyllid y prosiect yn cael ei reoli yn union yr un ffordd ar gyfer Cynllun Profiad Ymwelwyr ag Aberhonddu (£48,000) a Chynllun Profiad Ymwelwyr â Llandrindod (£125,000).

     

    Mae datganiad i’r wasg am ddyfarniad y cyllid yn cael ei lunio, a chaiff ei ryddhau unwaith y caiff ei gymeradwyo gan dimau cyfathrebu  Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys.

     

    Dyrannwydcyfanswm o £2.9miliwn trwy gynllun Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru ar draws Cymru i gyfanswm o 18 prosiect, fydd yn helpu gwireddu gwelliannau seilwaith graddfa fach mewn lleoliadau twristiaeth sy’n bwysig o safbwynt strategol ledled Cymru.

     

     

    Powys County Council has been successful in a bid for funding from the Visit Wales (Welsh Government) Brilliant Basics Scheme, a fund which supports small scale  ...  view the full minutes text for item 1.