County Councillor Elwyn Vaughan |
|
Subject: |
Gofal trwy gyfrwng y Gymraeg / Care through the medium of Welsh |
Question To: |
County Councillor Sian Cox, Cabinet Member for a Caring Powys and County Councillors Susan McNicholas and Sandra Davies Cabinet Members for Future Generations |
Question:
Heddiw (2 Awst), yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan; Pan fydd pobl yn derbyn gofal neu’n ceisio’i drefnu, fel arfer dyna’r adeg pan fyddan nhw fwyaf bregus. Felly, mae bod yn gyfforddus yn eu hiaith eu hunain yn bwysig.
Yn ôl ein gwaith ymchwil, i lawer o siaradwyr Cymraeg, roedd gallu cael gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn gwella’u profiad cyffredinol yn sylweddol. Mewn llawer o achosion, roedd hynny’n gwella’u canlyniadau o ran iechyd a lles. Dangosodd ein hymchwil hefyd fod pobl yn aml yn ei chael hi’n anodd cael gwasanaethau yn y
Gymraeg, a’u bod yn amharod i ofyn pan nad oedd gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig.
Wrth wraidd ein strategaeth mae egwyddor y Cynnig Rhagweithiol. Mae’n rhoi’r cyfrifoldeb ar y darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg, yn hytrach nag ar y claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth i orfod gofyn amdanynt. Er bod cynnydd wedi’i wneud ers lansio ein cynllun gwreiddiol bum mlynedd yn ôl, bellach mae angen inni gynnig mwy, yn gyflymach, er mwyn cyflawni’r cynnig hwnnw."
Yn sgil y cyhoeddiad yma heddiw a'r ffaith bo Cynllun Datblygu Lleol Powys yn cydnabod ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol, pa gamau penodol mae'r Cyngor am weithredu i sicrhau bo gwasanaeth cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael ym maes iechyd a gofal, yn arbennig yn yr ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol? Hefyd be fydd amserlen gweithredu y camau hynny a phryd y medrwn ddisgwyl adroddiad cynydd?
|
Today (2nd August) at the National Eisteddfod in Tregaron, the Health Minister Eluned Morgan said: “When people receive care or try to access care, that’s usually when they’re at their most vulnerable, therefore being comfortable in their own language is important.
According to our research, for many Welsh speakers, being able to access services through the medium of Welsh significantly improved their general experience. In many cases, this improved their health and welfare outcomes. Our research also showed that people often had difficulties accessing services in Welsh and are reluctant to ask why Welsh services were not offered.
At the heart of our strategy is the Proactive Offer principle. The responsibility is on the health and social care provider to offer services in Welsh, rather than on the patient or service user to have to ask for it. Even though progress has been made since the launch of our original plan five years ago, we now need to offer more, and quicker, in order to achieve that offer.”
As a result of that announcement today and the fact that Powys’ Local Development Plan recognises areas of linguistic sensitivity, what specific steps will the Council implement to ensure that full Welsh medium services are available in the health and care sector, especially in areas of linguistic sensitivity? Also what is the timetable for implementing those steps and when can we expect a progress report?
|
Minutes:
Response by the Cabinet Members:
Mae’r gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yn croesawu datganiad y Gweinidog Iechyd a lansiad egwyddor Cynnig Rhagweithiol sydd wedi'i hadnewyddu a'i hadfywio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon. Mae cyfathrebu dwy ffordd effeithiol yn allweddol i waith cymdeithasol a gofal cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan alluogi gwir wrando er mwyn deall beth sy'n wirioneddol bwysig i bobl. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach ar adegau o argyfwng personol neu drawma, sef yr adeg y bydd gwasanaethau cymdeithasol yn tuedu i ymwneud â phobl. Felly, mae’n hanfodol symud o’r ‘iaith a ffefrir’ neu’r 'dewis iaith' i Gynnig Rhagweithiol mwy cywir a hyblyg sy'n darparu gwasanaethau'n ddwyieithog i siaradwyr Cymraeg heb iddynt orfod datgan ffafriaeth.
Er yn cydnabod bod angen gwneud llawer er mwyn darparu'r Cynnig Rhagweithiol, mae'n bwysig nodi yn y lle cyntaf bod llawer eisoes wedi’i wneud a bod yr adran wedi derbyn rhywfaint o adborth cadarnhaol iawn yn ddiweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru ar y mater hwn:
“Mae'r awdurdod lleol yn rhagweithiol ei agwedd at gynnig rhagweithiol y Gymraeg. Bydd dymuniadau pobl o ran yr iaith y maent yn ei ffafrio yn cael ei sefydlu yn ystod y cyswllt cyntaf â gweithiwr cymdeithasol. Yn yr un modd mae'n rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod asesiad ac adolygiadau o gynlluniau gofal a chymorth yn cael eu cynnal yn gyson drwy gyfrwng y Gymraeg yn unol â dewis pobl. Er enghraifft, roedd yn gadarnhaol gweld asesiadau'n cael eu cynnal yn y Gymraeg lle'r oedd y Gymraeg yn famiaith i’r sawl oedd yn destun yr asesiad. Mae'n bosib y bydd yr awdurdod lleol am ystyried adolygu ei allu i ddarparu'r holl wasanaethau cymorth yn Gymraeg unwaith y bydd yr asesiad cychwynnol wedi ei gwblhau.
Ceir dealltwriaeth dda o anghenion hunaniaeth unigol pobl, gan gynnwys ym meysydd rhywioldeb a rhyw, sefyllfa plant o fewn eu gr?p teuluol, ac mewn perthynas â diwylliant, crefydd ac iaith. Gwelsom sensitifrwydd o fewn asesiadau plant o ran materion amrywiaeth, ynghyd â dealltwriaeth ac ymrwymiad i ddiwallu anghenion unigol drwy weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau pwrpasol perthnasol.”
Mae Fframwaith Strategol "Mwy Na Geiriau" Llywodraeth Cymru yn rhoi disgwyliadau cyfreithiol ar gynghorau sir a byrddau iechyd nid yn unig er mwyn darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, ond er mwyn cadw cofnod cywir o bob unigolyn sy'n derbyn gwasanaeth a bod 'cynnig rhagweithiol’ yn cael ei estyn i bawb sy'n siarad Cymraeg, sef syniad a ddaeth o Ganada'n wreiddiol.
"Yn syml, mae Cynnig Rhagweithiol yn golygu darparu gwasanaeth yn y Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Mae'n golygu creu newid diwylliant sy'n cymryd y cyfrifoldeb oddi ar yr unigolyn a rhoi'r cyfrifoldeb ar ddarparwyr gwasanaethau a pheidio rhagybio fod pob siaradwr Cymraeg yn siarad Saesneg beth bynnag."
-Fframwaith Strategol Dilynol Mwy na Geiriau.
Er mwyn rhoi’r Cynnig Rhagweitihol ar waith yn effeithiol dylai'r gwasanaeth:
· Darganfod a chofnodi iaith gyntaf defnyddwyr gwasanaethau a ieithoedd eraill y maent yn eu siarad.
· Darganfod a chofnodi sgiliau ieithyddol staff yn y Gymraeg. O ran arfer da, byddai angen i ganran y staff sy'n siarad Cymraeg adlewyrchu'n agos y ganran o ddefnyddwyr gwasanaeth sy'n siarad Cymraeg yn y gymuned;
· Dyrannu staff sy'n siarad Cymraeg i weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth sy'n siarad Cymraeg.
Dylai'r cynnig rhagweithiol roi cyfle i siaradwyr Cymraeg dderbyn gwasanaethau trwy gyfrwng eu mamiaith, rhywbeth na fydden nhw, o bosib, wedi bod yn fodlon gofyn amdano yn y gorffennol.
Datblygwyd Cynllun Cynnig Rhagweithiol ym Mhowys tua diwedd 2019 (gweler isod), cyn y pandemig. Bid a fo o ran y cynllun heneiddio, mae'r camau a ddisgrifir yn parhau i fod yn berthnasol ac angen eu gweithredu ym Mhowys er mwyn sicrhau bod y Cynnig Rhagwetihiol ar gael i bawb. Bydd angen i'r gwaith yma fod yn unol â gofynion cynllun gweithredu newydd Llywodraeth Cymru.
Er mwyn sicrhau bod y Cynnig Rhagweithiol yn hygyrch ac yn effeithiol yn y tymor canolig i'r hirdymor, mae angen dull Cyngor cyfan a system gyfan, gan gynnwys:
· Disgyblion Ysgol:
o Hybu dysgu iaith
o Hyrwyddo cyfleoedd gyrfa iechyd a gofal cymdeithasol (ffeiriau gyrfaoedd ayyb)
o Creu rolau gofal cymdeithasol lle mae’r Gymraeg yn Hanfodol
· Myfyrwyr a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
o Hyrwyddo cyfleoedd drwy ysgolion a phrifysgolion
o Hyrwyddo cyfleoedd i hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg
o Hyrwyddo Prifysgolion Cymru
o Hyrwyddo ysgoloriaethau a chyfleoedd 'Tyfu Ein Hunain'
· Staff sy'n siarad Cymraeg
o Hyrwyddo a normaleiddio defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith
o Sicrhau hawliau iaith (e.e. mewnrwyd a dogfennau polisi etc)
o Hyrwyddo'r defnydd o fathodynnau Siaradwr Cymraeg
o Hyrwyddo gwybodaeth Gymraeg mewn llofnodion e-bost
· Staff sy'n siarad Cymraeg ond heb yr hyder i wneud hynny
o Cyfleoedd hyfforddi
o Cyfleoedd i ymarfer (clybiau iaith ayyb)
o Gwersi pellach
· Staff Uniaith Saesneg
o Hyfforddiant yn 'Geiriau Bach' (Geiriau Bach)
o Apps symudol – "Gofalu Trwy'r Gymraeg"
o Cyrsiau ymwybyddiaeth iaith
o E-gwrs sylfaenol 10-awr yn y Gymraeg
· Dysgwyr Cymraeg
o Hyfforddiant ar gael gydag opsiynau ôl-lenwi wedi'u hariannu
o Hybu systemau, fel Say Something in Welsh
Gyda'r swyddog presennol ar fin gadael yr Awdurdod, mae'n hanfodol bod Gwasanaethau Cymdeithasol yn penodi Hyrwyddwr Iaith newydd sy'n cyfarfod â'r Swyddog Iaith Gymraeg i fonitro cydymffurfiad a bod yn "llygaid a chlustiau" y Cynnig Rhagweithiol. Gall y ddau weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod staff yn ymwybodol o egwyddor y Cynnig Rhagweithiol a nodi system goleuadau traffig am chwe mis i adlewyrchu cydymffurfiad. Dylai'r perfformiad fod yn eitem sefydlog ar gyfarfodydd Gr?p Hyrwyddo a Her Cymru.
Mae'n eglur, felly, bod angen gwaith y Cyngor ehangach er mwyn cyflawni'r Cynnig Rhagweithiol drwy'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Gyda'r swyddog presennol ar fin gadael yr Awdurdod, mae'n hanfodol bod Gwasanaethau Cymdeithasol yn penodi Hyrwyddwr Iaith newydd sy'n cyfarfod â'r Swyddog Iaith Gymraeg i fonitro cydymffurfiad a bod yn "llygaid a chlustiau" y Cynnig Rhagweithiol. Gall y ddau weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod staff yn ymwybodol o egwyddor y Cynnig Rhagweithiol a nodi system goleuadau traffig am chwe mis i adlewyrchu cydymffurfiad. Dylai'r perfformiad fod yn eitem sefydlog ar gyfarfodydd Gr?p Hyrwyddo a Her Cymru.
Mae'n eglur, felly, bod angen gwaith y Cyngor ehangach er mwyn cyflawni'r Cynnig Rhagweithiol drwy'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Yn ddiweddar mae'r Gr?p Hybu, Herio a Chefnogi'r Gymraeg, sydd ag aelodau ledled Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys wedi ailymgynnull am y tro cyntaf ers cyn y pandemig ac wedi ail-osod ei gylch gorchwyl. Bydd y gr?p hwn yn allweddol wrth ddiwygio cynllun y Cynnig Rhagweithiol (uchod) ac wrth nodi'r cynllun dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf i sicrhau bod pobl sydd angen help yn eu cymunedau eu hunain yn cael cynnig y cymorth hwn yn rhagweithiol yn un o ieithoedd brodorol Cymru.
The Social Services directorate welcomes the Health Minister’s statement and launch of the renewed and refreshed Proactive Offer principle at the National Eisteddfod this week. Effective two-way communication is key to person centred social work and social care, enabling true listening in order to understand what truly matters to people. This is even more important at times of personal crisis or trauma, which is often when social services become involved with people. Therefore, the move away from ‘preferred language’ or ‘language of choice’ to a more accurate and flexible Proactive Offer which provides services bilingually to Welsh speakers without them having to state a preference is imperative.
While recognising that much needs to be done in order to provide the Proactive Offer, it is firstly important to note that much has already been done and that the department has recently received some very positive feedback form the Care Inspectorate Wales on this matter:
“The local authority is proactive in its approach to the active offer of Welsh. People’s preferred language wishes are established during first contact with a social worker. In the same way the local authority must ensure assessment and reviews of care and support plans are consistently undertaken through the medium of Welsh in accordance with people’s preference. For example, it was positive to see assessments being undertaken in Welsh where the person’s first language was Welsh. The local authority may want to consider reviewing its ability to deliver all support services in Welsh once the initial assessment is completed.
People’s individual identity needs are well understood, including sexuality and gender, the position of children within their family group, and in relation to culture, religion and language. We saw within children’s assessments sensitivity shown regarding diversity issues and an understanding and commitment to meeting individual needs through partnership working with relevant bespoke services.”
The Welsh Government’s “More Than Just Words” Strategic Framework places legal expectations upon county councils and health boards not only to provide services through the medium of Welsh, but to keep an accurate record of each individual who receives a service and that an ‘active offer’ is given to everyone who speaks Welsh, an idea which originally came from Canada.
“An Active Offer simply means providing a service in Welsh without someone having to ask for it. It means creating a change of culture that takes the responsibility away from the individual and places the responsibility on service providers and not making the assumption that all Welsh speakers speak English anyway.”
– More Than Just Words Follow-on Strategic Framework.
In order to implement the Active Offer effectively the service should:
· Discover and record service users’ first language and other languages spoken.
· Discover and record staff’s linguistic skills in Welsh. Good practice would require the percentage of staff who speak Welsh to closely reflect the percentage of service users who speak Welsh in the community;
· Allocate Welsh speaking staff to work with Welsh speaking service users.
The active offer should give Welsh speakers the opportunity to receive services through the medium of their mother tongue, something which they possibly would not have been willing to request in the past.
An Active Offer Plan was developed in Powys towards the end of 2019 (see below), prior to the pandemic. Regardless of the ageing plan, the actions described remain relevant and need implementation in Powys to ensure the Active Offer is made available to all. This work will need to be undertake in line with the requirements of the new Welsh Government action plan.
In order to ensure the Active Offer is accessible and effective in the medium to longer term, a whole Council and whole system approach is required, which includes:
· School Pupils:
o Promotion of language learning
o Promotion of health and social care career opportunities (careers fairs etc)
o Creation of Welsh Language Essential social care roles
· Students & Coleg Cymraeg Cenedlaethol
o Promotion of opportunities through schools and universities
o Promotion of opportunities to train through the medium of Welsh
o Promotion of Welsh Universities
o Promotion of scholarships and ‘Grow Our Own’ opportunities
· Welsh Speaking Staff
o Promote and normalise Welsh language usage at work
o Ensure language rights (e.g. intranet and policy documents etc)
o Promote usage of Welsh Speaker badges
o Promote Welsh information in email signatures
· Welsh Speaking Staff Who Lack Confidence to Speak
o Training opportunities
o Opportunities to practice (language clubs etc)
o Further lessons
· Monoglot English Speaking Staff
o Training in ‘Geiriau Bach’ (Little Words)
o Mobile Apps – “Gofalu Trwy’r Gymraeg”
o Language awareness courses
o Basic 10 hour e-course in Welsh
· Welsh Learners
o Training made available with backfill options funded
o Promotion of systems, such as Say Something in Welsh
With the current officer leaving the Authority, it is essential that Social Services appoints a new Language Champion who meets with the Welsh Language Officer to monitor compliance and to be the “eyes and ears” of the Active Offer. Both can work together to ensure staff are aware of the principle of the Active Offer and note a six-monthly traffic light system to reflect compliance. The performance should be a standing item on meetings of the Welsh Promotion and Challenge Group.
It is clear, therefore, that the work of the wider Council is required to achieve the Active Offer through Social Services.
The Welsh Language Promotion, Challenge and Support Group, which has members across Powys County Council, Powys Teaching Health Board, and Powys Association of Voluntary Organisations has recently reconvened for the first time since prior to the pandemic and has re-set its terms of reference. This group will be key in revising the Active Offer plan (above) and to setting out the plan over the coming months and years to ensure that people who require help in their own communities are offered this help proactively in one of the native languages of Wales.