Heddiw (2 Awst),
yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, dywedodd y
Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan;
Pan fydd
pobl yn derbyn gofal
neu’n ceisio’i drefnu,
fel arfer
dyna’r adeg pan fyddan
nhw fwyaf
bregus. Felly, mae bod yn gyfforddus
yn eu hiaith eu hunain yn bwysig.
Yn ôl
ein gwaith
ymchwil, i lawer o siaradwyr
Cymraeg, roedd gallu cael gwasanaethau drwy
gyfrwng y Gymraeg yn gwella’u profiad
cyffredinol yn sylweddol. Mewn
llawer o achosion, roedd
hynny’n gwella’u canlyniadau o ran iechyd a lles. Dangosodd
ein hymchwil hefyd
fod pobl yn
aml yn ei chael hi’n
anodd cael
gwasanaethau yn y
Gymraeg,
a’u bod yn amharod i ofyn pan nad
oedd gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig.
Wrth wraidd ein strategaeth mae
egwyddor y Cynnig Rhagweithiol.
Mae’n rhoi’r cyfrifoldeb ar y darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol i
gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg, yn hytrach nag
ar y claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth
i orfod gofyn amdanynt.
Er bod cynnydd
wedi’i wneud ers lansio ein cynllun gwreiddiol bum
mlynedd yn ôl, bellach
mae angen
inni gynnig
mwy, yn gyflymach, er mwyn
cyflawni’r cynnig hwnnw."
Yn sgil y
cyhoeddiad yma heddiw a'r ffaith bo Cynllun Datblygu Lleol Powys yn
cydnabod ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol, pa gamau
penodol mae'r Cyngor am
weithredu i sicrhau bo gwasanaeth cyflawn trwy
gyfrwng y Gymraeg ar gael
ym maes
iechyd a gofal, yn arbennig yn yr
ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol? Hefyd be
fydd amserlen gweithredu y
camau hynny
a phryd y medrwn ddisgwyl
adroddiad cynydd?
|
Today (2nd August) at the National Eisteddfod
in Tregaron, the Health Minister
Eluned Morgan said:
“When people receive care or try to
access care, that’s usually when they’re at their most
vulnerable, therefore being comfortable in their own language is
important.
According to our research, for many Welsh
speakers, being able to access services through the medium of Welsh
significantly improved their general experience. In many cases, this improved their health and
welfare outcomes. Our research also
showed that people often had difficulties accessing services in
Welsh and are reluctant to ask why Welsh services were not
offered.
At the heart of our strategy is the Proactive
Offer principle. The responsibility is
on the health and social care provider to offer services in Welsh,
rather than on the patient or service user to have to ask for
it.
Even though progress has been made since the
launch of our original plan five years ago, we now need to offer
more, and quicker, in order to achieve
that offer.”
As a result of that announcement today and the
fact that Powys’ Local Development Plan recognises areas of
linguistic sensitivity, what specific steps will the Council
implement to ensure that full Welsh ...
view the full agenda text for item 1.
|