No. | Item | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Question from: County Councillor Elwyn Vaughan Subject: Gofal trwy gyfrwng y Gymraeg / Care through the medium of Welsh
Question:
Minutes: Response by the Cabinet Members:
Mae’r gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yn croesawu datganiad y Gweinidog Iechyd a lansiad egwyddor Cynnig Rhagweithiol sydd wedi'i hadnewyddu a'i hadfywio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon. Mae cyfathrebu dwy ffordd effeithiol yn allweddol i waith cymdeithasol a gofal cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan alluogi gwir wrando er mwyn deall beth sy'n wirioneddol bwysig i bobl. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach ar adegau o argyfwng personol neu drawma, sef yr adeg y bydd gwasanaethau cymdeithasol yn tuedu i ymwneud â phobl. Felly, mae’n hanfodol symud o’r ‘iaith a ffefrir’ neu’r 'dewis iaith' i Gynnig Rhagweithiol mwy cywir a hyblyg sy'n darparu gwasanaethau'n ddwyieithog i siaradwyr Cymraeg heb iddynt orfod datgan ffafriaeth.
Er yn cydnabod bod angen gwneud llawer er mwyn darparu'r Cynnig Rhagweithiol, mae'n bwysig nodi yn y lle cyntaf bod llawer eisoes wedi’i wneud a bod yr adran wedi derbyn rhywfaint o adborth cadarnhaol iawn yn ddiweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru ar y mater hwn:
“Mae'r awdurdod lleol yn rhagweithiol ei agwedd at gynnig rhagweithiol y Gymraeg. Bydd dymuniadau pobl o ran yr iaith y maent yn ei ffafrio yn cael ei sefydlu yn ystod y cyswllt cyntaf â gweithiwr cymdeithasol. Yn yr un modd mae'n rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod asesiad ac adolygiadau o gynlluniau gofal a chymorth yn cael eu cynnal yn gyson drwy gyfrwng y Gymraeg yn unol â dewis pobl. Er enghraifft, roedd yn gadarnhaol gweld asesiadau'n cael eu cynnal yn y Gymraeg lle'r oedd y Gymraeg yn famiaith i’r sawl oedd yn destun yr asesiad. Mae'n bosib y bydd yr awdurdod lleol am ystyried adolygu ei allu i ddarparu'r holl wasanaethau cymorth yn Gymraeg unwaith y bydd yr asesiad cychwynnol wedi ei gwblhau.
Ceir dealltwriaeth dda o anghenion hunaniaeth unigol pobl, gan gynnwys ym meysydd rhywioldeb a rhyw, sefyllfa plant o fewn eu gr?p teuluol, ac mewn perthynas â diwylliant, crefydd ac iaith. Gwelsom sensitifrwydd o fewn asesiadau plant o ran materion amrywiaeth, ynghyd â dealltwriaeth ac ymrwymiad i ddiwallu anghenion unigol drwy weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau pwrpasol perthnasol.”
Mae Fframwaith Strategol "Mwy Na Geiriau" Llywodraeth Cymru yn rhoi disgwyliadau cyfreithiol ar gynghorau sir a byrddau iechyd nid yn unig er mwyn darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, ond er mwyn cadw cofnod cywir o bob unigolyn sy'n derbyn gwasanaeth a bod 'cynnig rhagweithiol’ yn cael ei estyn i bawb sy'n siarad Cymraeg, sef syniad a ddaeth o Ganada'n wreiddiol.
"Yn syml, mae Cynnig Rhagweithiol yn golygu darparu gwasanaeth yn y Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Mae'n golygu creu newid diwylliant sy'n cymryd y cyfrifoldeb oddi ar yr unigolyn a rhoi'r cyfrifoldeb ar ddarparwyr gwasanaethau a pheidio rhagybio fod pob siaradwr Cymraeg yn siarad Saesneg beth bynnag." -Fframwaith Strategol Dilynol Mwy na Geiriau.
Er mwyn rhoi’r Cynnig Rhagweitihol ar waith yn effeithiol dylai'r gwasanaeth:
· Darganfod a chofnodi iaith gyntaf defnyddwyr gwasanaethau a ieithoedd eraill y maent yn eu siarad. · Darganfod a chofnodi sgiliau ieithyddol staff yn y Gymraeg. O ... view the full minutes text for item 1. |