Ymddiheuriadau am yr oedi wrth ymateb.
Gallwn sicrhau’r Aelod y bydd gennym
wasanaeth Cymraeg a Saesneg yn nerbynfa Neuadd y Sir sy’n
cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg. Mae staff y dderbynfa’n hollol
ddwyieithog.
Mae gennym arwydd wrth y dderbynfa sy’n
datgan yn Gymraeg fod croeso i ymwelwyr ddefnyddio’r Gymraeg
wrth y dderbynfa. Mae dau aelod staff
sy’n gallu cynnig gwasanaeth Cymraeg yn y dderbynfa ac yn
gwisgo laniard i gyfleu hyn.
Bydd agor adeiladau eraill yn cael eu
hystyried yn unol â Safonau’r Gymraeg.
Bwriedir cynnal adolygiad o’r
ddarpariaeth gwasanaethau cwsmer yn gyffredinol eleni a bydd y
canlyniadau’n cael eu defnyddio wrth ystyried y ddarpariaeth
yn y dyfodol.
Byddwn nawr yn mynd ati i sefydlu’r
Gweithgor trawsbleidiol fel y cytunwyd gan Arweinwyr y Grwpiau mewn
cyfarfod anffurfiol yn y Sioe Fawr.
?
Atodiad 1
Safonau’r Gymraeg o ran derbynfeydd:
Safon 64
Rhaid i unrhyw wasanaeth derbynfa sydd ar gael
yn Saesneg hefyd fod ar gael yn Gymraeg, ac ni ddylid trin unrhyw
un sydd angen gwasanaeth Cymraeg wrth y dderbynfa, yn llai ffafriol
na rhywun sydd angen gwasanaeth derbynfa Saesneg. Rhaid i chi gydymffurfio â safon 64 o ran y
canlynol erbyn 30 Mawrth 2016:
•
Prif wasanaeth derbynfa y sefydliad.
Rhaid cydymffurfio â safon 64 o ran y
canlynol erbyn 30 Medi 2016:
•
Pob gwasanaeth derbynfa arall.
Safon 67
Rhaid gosod arwydd yn y dderbynfa sy’n
nodi (yn Gymraeg) fod croeso i ymwelwyr ddefnyddio’r Gymraeg
wrth y dderbynfa.
Safon 68
Rhaid sicrhau fod staff y dderbynfa sy’n
gallu darparu gwasanaeth Cymraeg, yn gwisgo bathodyn i gyfleu
hynny.
|
Apologies for the delay in responding.
We can assure the member we will have a Welsh
and English reception service at County Hall that conforms to the
Welsh Language Standards. Staff working at reception are fully
bilingual.
We have a sign in reception which states in
Welsh that people are welcome to use the Welsh language at
reception. There are two members of staff who can provide a Welsh
language reception service and they wear a lanyard to convey
this.
Any further opening of buildings will be
considered in line with Welsh Language Standards.
A review of the wider customer services
provision is planned to be conducted this year with the results
helping to inform our future provision.
We will now be moving to establish the
cross-party Working Group as agreed by Group Leaders at an informal
meeting at the RWS.
Appendix 1
Welsh Language Standards regarding
Receptions:
Standard 64
Any reception service you make available in
English must also be available in Welsh, and any person who
requires a Welsh language reception service must not be treated
less favourably than a person who requires an English language
reception service. You must comply with standard 64 in relation to
the following by 30 March 2016:
•
The body’s main reception service
You must comply with standard 64 in relation
to the following by 30 September 2016:
•
Every other reception service
Standard 67
You must display a sign ...
view the full minutes text for item 1.
|