Mae’r Urdd yn fudiad pwysig iawn yma i ni ym Mhowys. Fel
arfer ar yr adeg yma o’r flwyddyn, bydd y sir yn ferw o
weithgaredd yn paratoi at yr Eisteddfodau Cylch a Sir o Lanfyllin i
Ystradgynlais, gyda’r aelodau yn cystadlu mewn cystadlaethau
llwyfan, dawns, celf a chrefft a nifer o bethau eraill er mwyn
cyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod wythnos y
Sulgwyn.
Cafodd
yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ei chynnal ym Mrycheiniog a
Maesyfed yn 2018, arweiniodd at gynnydd mawr yng ngweithgaredd yr
Urdd yn yr ardal honno. Arweiniodd hynny, ynghyd â phenodi
Swyddog Datblygu llawn amser yn yr ardal, at gynnydd o 50% yn
aelodaeth yr Urdd (o 795 i 1198 o aelodau) a thair gwaith y nifer o
blant yn cymryd rhan yn y gweithgareddau chwaraeon, gan gynyddu o
368 yn 2015/16 i 1121 yn 2018/19. Mae hyn yn dangos gwerth a
phwysigrwydd presenoldeb yn lleol.
Mae
cynlluniau i ddod â’r Eisteddfod Genedlaethol yn
ôl i Sir Drefadwyn yn y blynyddoedd nesaf hefyd, ac mae
disgwyl bwrlwm o weithgareddau wrth i ni baratoi at hynny, a llawer
o ddiddordeb ychwanegol yng ngweithgareddau’r mudiad yn sgil
hynny.
Rhaid
cofio hefyd fod llawer mwy i weithgareddau’r Urdd na dim ond
yr Eisteddfod, gyda chystadlaethau chwaraeon, clybiau ac aelwydydd
yr Urdd yn yr ysgolion ac yn y gymuned, yr ymweliadau â
gwersylloedd yr Urdd yn Llangrannog, Glan-llyn a Chaerdydd, a
theithiau tramor yr Urdd i leoedd fel Disneyland Paris. Mae’r
Cyngor wedi cyfrannu’n hael tuag at y gweithgareddau hyn dros
y blynyddoedd, ac wedi bod yn cyd-weithio gyda’r Urdd i
gefnogi’r gweithgareddau pwysig hyn.
Mae’n bryder mawr i ni felly fod yr Urdd yn bwriadu cau
eu swyddfa yn Y Drenewydd ar adeg mor dyngedfennol, fydd yn golygu
nad oes swyddfa yn y canolbarth o gwbl – dim byd rhwng
Dinbych a Gwent, na rhwng Glan-llyn a Llangrannog. Mae hon yn ardal
enfawr o Gymru, ac yn ardal sydd angen cefnogaeth mudiadau fel yr
Urdd i sicrhau fod gweithgareddau cyfrwng Cymraeg yn cael eu
cynnal.
Bydd
disgwyl i staff sy’n gyfrifol am Bowys deithio o Ddinbych i
gefnogi gweithgareddau ym Maldwyn, neu o ardal Castell-nedd Port
Talbot i weithgareddau mor bell i’r gogledd â Rhaeadr a
Thref-y-clawdd, gan olygu y byddant yn eu ceir yn teithio ar hyd
strydoedd y sir yn hytrach nag yn cefnogi’r gweithgareddau
pwysig hyn, a chael cyswllt gyda phobl ifanc y sir. A bydd yn anodd
iawn iddynt allu cynnal lefel y gwasanaeth y mae eu haelodau ym
Mhowys yn ei haeddu, a’r un lefel a fydd yn cael ei gynnal
mewn rhannau eraill o Gymru.
Gall
hyn gael effaith sylweddol ar y gweithgareddau ac i’r
gefnogaeth i’r Urdd yn y sir.
Rwy’n cytuno â’r aelod fod hyn yn bryder
mawr, ac yn galw ar yr Urdd i ail-ystyried y cynnig, fel bod
darpariaeth deg a chyfartal ar gael yng nghanolbarth Cymru, ac yn
gofyn iddynt ddod i drafod ...
view the full minutes text for item 1.
|